Home > 5 neges bwysig > Cadwch yn bositif
Cadwch yn bositif
- Os ydych yn teimlo’n bryderus neu ar bigau drain, rhowch gynnig ar ymarferion anadlu neu ymlacio, neu gwrandewch ar gerddoriaeth leddfol.
Anadlu:: cyfrwch i dri gan anadlu’n ddwfn drwy eich trwyn, yna cyfrwch i dri eto gan anadlu allan drwy eich ceg. Gwnewch hyn dair gwaith
Ymlacio: codwch ei ysgwyddau at eich clustiau mor galed ag y gallwch, yna eu gollwng. Gwnewch hyn dair gwaith.
- Peidiwch â dal i boeni am y pethau rydych yn methu eu gwneud. Gwnewch yn fawr o’r sgiliau sydd gennych a meddyliwch am y pethau rydych yn GALLU eu gwneud.
- Daliwch ati i wneud y pethau rydych yn eu mwynhau, gymaint ag y gallwch chi.
- Gwnewch bethau fydd yn golygu nad oes angen mynd allan i siopa gymaint, fel pobi cacennau neu fara.
- Gosodwch sialens i chi eich hun. Rhowch gynnig ar rywbeth newydd. Os oes gennych ddiddordeb nad ydych wedi ei ddilyn ers tro byd, beth am ailgydio ynddo?