Home > 5 neges bwysig > Cadwch yn heini
Cadwch yn heini
-
Ceisiwch gael cydbwysedd rhwng gweithgareddau sy’n eich symbylu a rhai ymlaciol. Os gallwch fynd ar-lein, mae llawer o weithgareddau’n cael eu hawgrymu ar wefan Cymdeithas Alzheimer.
-
Neilltuwch wahanol lefydd yn eich cartref ar gyfer gwahanol weithgareddau.
-
Mae sesiynau ymarfer corff i’w cael ar y teledu neu ar-lein, felly treuliwch ychydig o amser yn gwneud tipyn o ymchwil er mwyn cael hyd i rai rydych chi’n eu hoffi.
-
Addaswch weithgareddau y byddech fel arfer yn eu gwneud yn yr awyr agored. Er
enghraifft, gallech fynd am ‘dro bach a sgwrs’ o amgylch bwrdd gyda rhywun sy’n byw yn yr un tŷ â chi, gan ddewis pwnc i siarad amdano. -
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael digon o olau dydd ac awyr iach. Mae eistedd wrth eich ffenestr neu wrth ddrws y tŷ ynddo’i hun yn gallu gwneud i chi deimlo ychydig bach yn well.
-
Gwyliwch beth sy’n mynd ymlaen o’ch cwmpas a cheisiwch werthfawrogi beth rydych yn gallu ei weld o’ch ffenestr eich hun.
-
Os yn bosib, rhowch fwyd allan i’r adar er mwyn i chi allu eu gwylio o’ch ffenestr.