Home > 5 neges bwysig > Daliwch i fod â threfn a phwrpas
Daliwch i fod â threfn a phwrpas
- Gwnewch gynllun bob nos ar gyfer y diwrnod wedyn, fel y bydd yn barod ar eich cyfer pan ddeffrowch.
- Gallech hyd yn oed roi eich amserlen i fyny ar yr oergell neu’r wal, neu ddefnyddio bwrdd gwyn.
- Gallai fod yn gynllun ar gyfer un dydd yn unig neu wythnos gyfan. Rhowch bob dim yr ydych yn cynllunio i’w wneud ac am faint o amser.
- Gwnewch restr o bethau i’w gwneud a thiciwch bob un wedi i chi ei gwblhau. Rhowch weithgareddau yr ydych yn edrych ymlaen atynt yn ogystal â thasgau y mae’n rhaid i chi eu gwneud.